Gwelwch eich busnes yn tyfu a ffynnu gyda’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch o fewn ein Swyddogaeth Ariannol gyfan. O Gadw Cyfrifon, i Restr Cyflogau, Ffurflenni Treth a Gosod Targedau mae’r cyfan yn cael ei drin yma!
Gwnewch eich bywyd yn haws, a’ch busnes yn fwy ystwyth ac effeithlon drwy weithio gyda datryswyr problemau, chyflwyno prosesau, systemau, ac awtomeiddio; sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau busnes yn seiliedig ar wybodaeth amser rêl.
Gall ein Prawf Iechyd Ariannol Busnes Lletygarwch eich helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o’ch sefyllfa ariannol bresennol, nodi cyfleodd i fanteisio i’r eithaf a chyrraedd potensial llawn eich busnes lletygarwch.
Trwy gymryd y Prawf Iechyd Ariannol, byddwch yn darganfod eich sgôr iechyd ariannol presennol a derbyn cyngor y gellir ei roi ar waith, a allwch ei ddefnyddio er mwyn cael canlyniadau pendant heddiw.
Dim chwarae cwmpas, dim sỳms, atebwch rai cwestiynau syml iawn ia/na i gael cyngor gweithredol am ddim mewn llai na 4 munud. Mae’n amser i…
Cymerwch y Prawf Iechyd Ariannol Busnes Lletygarwch!
Ni fyddwch yn ofn y ffigyrau ddim mwy! Mae Cyfrifwyr EOG yn darparu’r offer i gymryd rheolaeth dros eich cyllid.
Cadwech ‘HM Revenue and Customs and Companies House’ yn hapus; rydym yn defnyddio technoleg ddiweddaraf a phrosesau wedi’u hymgorffori i gasglu a phrosesu data ar gyfer Cyfrifon statudol, Rhestr cyflogau a Dychweliadau TAW.
Gall ei’n wasanaethau Cynghori helpu eich busnes dyfu, Gallwch ddewis niferoedd o wasanaethau gwahanol wrth i’ch busnes datblygu.
Mae ein tîm yn darparu gwasanaeth sy’n broffesiynol, ond yn bersonol, rydym yn deall eich busnes, ond rydym hefyd yn gwybod enw eich ci! Datrys problemau ac adnabod eich pwyntiau “poenus” yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud orau; mae ein cam darganfod yn ein helpu i nodi lle gallwn eich helpu fwyaf, fel y gallwch fwrw ymlaen â’r hyn rydych chi’n ei wneud orau – rhedeg a thyfu eich busnes!
Felly, os ydych chi’n berchen ar fusnes ac yn edrych i dyfu, ac eisiau systemoli’ch swyddogaeth gyfrifeg, deall eich ffigyrau a chael gwybod am unrhyw newidiadau, yna ni yw’r cyfrifwyr i chi.
Gall dod o hyd i’r cyfrifydd perffaith i’ch busnes newid y gêm yn llwyr. Mae’n hanfodol eich bod yn dewis y tîm sydd yn ffit ragorol i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Os ydych yn berchennog busnes sy’n dymuno tyfu eich busnes lletygarwch, mae angen i chi gael Cyfrifwyr EOG wrth eich ochr.
Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriaid wedi dechrau eu busnes oherwydd ei fod yn angerddol am eu diwydiant, ac roeddent eisiau derbyn yr holl fanteision sy’n dod gyda rhyddid ariannol.
Yn anffodus, er gwaethaf y brwdfrydedd, egni, a’r arbenigedd sydd ganddynt yn eu crefft, nid yw llawer o berchnogion busnes yn gosod targedau clir a diffiniedig ac nid oes ganddynt y cynllun, systemau ar waith i gyflawni eu nodau. I eraill, yn syml nid ydynt yn deall y rhifau.
Dewch dros y rhwystrau hyn a buddiwch o wybodaeth ddiwydiannol Cyfrifwyr EOG, a’i ymrwymiad di-dor i’ch llwyddiant.
Nid oes unrhyw reswm i boeni am adael eich cyfrifydd presennol
Mae’r broses drosglwyddo’n syml ac fe wnawn gysylltu â’ch cyfrifydd blaenorol ar eich rhan chi a gofalu am drosglwyddo’r data.
O archebu’r ‘discovery call’ i lenwi’ch Dychweliad TAW, rydym yn hoffi meddwl amdano fel taith, nid cyrchfan.